

CWRDD Â Nathan
Cyn-fyfyriwr Economeg,
Entrepreneur Cymdeithasol,
CEO Rewise Foundation
“RYDW I’N ENTREPRENEUR
Pan oeddwn i yn yr ysgol, doedd neb yn fy annog i fynd i’r brifysgol, ond dwi mor falch fy mod i wedi goresgyn fy ofn cychwynnol.
Newidiodd Abertawe fy agwedd tuag at fywyd. Nawr, dwi’n rhedeg dau gwmni, yn aelod o fyrddau dau gwmni arall ac yn teithio’r byd, a dwi wedi cwrdd â’r Teulu Brenhinol a Phrif Weinidog y DU.
Wrth astudio Economeg, agorwyd fy meddwl i’r potensial anferth sydd gan bawb. O fewn misoedd i gychwyn fy ngradd, roeddwn i wedi sefydlu fy musnes cyntaf yn hyrwyddo digwyddiadau cerddoriaeth gyda’m ffrind gorau.
Mae gen i atgofion melys o fod yn DJ ar y campws, ac yn ystod fy ail a’m trydedd flwyddyn, chwaraeais mewn gwyliau a chlybiau nos ar draws y DU. Ond fy mreuddwyd pennaf oedd defnyddio cerddoriaeth ac ennill bywoliaeth trwy wneud rhywbeth cadarnhaol ar gyfer y gymuned.
Roedd cwrdd â ffrindiau newydd o bedwar ban y byd, ynghyd â’r agwedd gadarnhaol yn Abertawe yn ysbrydoliaeth go iawn. Dwi’n ddyslecsig, ond doeddwn i ddim wedi cael diagnosis cyn dechrau yn y brifysgol. Mae Abertawe wedi rhoi i mi’r hyder, y sgiliau a’r amgylchedd i wireddu fy mreuddwydion.
Heddiw, mae fy nghwmnïau a’m sefydliad elusennol yn rhannu un peth – maen nhw’n rhoi hyder i bobl i wella eu bywydau, yn union fel y gwnes i.
Dwi wedi ennill sawl gwobr busnes, wedi bod yn llysgennad i Ymddiriedolaeth y Tywysog ac wedi cwrdd â Richard Branson, ond dwi ddim wedi cyflawni fy holl uchelgeisiau - o bell ffordd. Mae gen i gant o freuddwydion eraill i weithio arnynt cyn y byddaf yn fodlon fy myd.
Y tro cyntaf i mi syrffio ar benrhyn Gŵyr, roeddwn i’n gwybod y byddai’n anodd gadael. Nawr, rwy’n gyfarwyddwr ysgol syrffio i bobl anabl. Tonnau gwych, pobl wych a harddwch Gŵyr – mae’r cyfan gan Brifysgol Abertawe.”

Mae gen i gant o freuddwydion eraill i weithio arnynt cyn y byddaf yn fodlon fy myd.
Nathan

ASTUDIO RHEOLAETH YM MHRIFYSGOL ABERTAWE
Mae’r Ysgol Reolaeth yn cynnig ystod o raglenni israddedig ar draws meysydd busnes/rheolaeth, cyfrifeg/cyllid ac economeg. Mae ein holl raglenni’n cynnig llwybr carlam i lefel uchaf busnes modern neu sefydliadau polisi. Mae’r rhaglenni hyn yn elwa o ystod o achrediadau proffesiynol.

Dyma rai o’r bobl sydd ar frig y don ym Mhrifysgol Abertawe.
MAE PRIFYSGOL YN FWY NA LLE I DDYSGU – MAE’N LLE I FYW!
Mae’r ffordd o fyw ar ein campws yn meithrin cymuned groesawgar, gosmopolitan sy’n cynnig rhywbeth i bawb.







EIN LLEOLIAD UNIGRYW
Yn dafliad carreg o ganol y ddinas, mae Campws y Bae wrth y traeth,
ac mae Campws Parc Singleton wedi’i amgylchynu gan barcdir aeddfed a gerddi botaneg. Mae’r ddau ar gyrion penrhyn hardd Gŵyr.


CYMORTH MYFYRWYR
I lawer o bobl, mae’r brifysgol yn lle i wneud ffrindiau oes, ennill llwyth o brofiad, cael addysg wych a datblygu sgiliau ar gyfer cyflogaeth. Os oes gennych ymholiad cyffredinol, problem benodol, neu os hoffech chi drafod pethau â rhywun, mae ein tîm Cymorth Myfyrwyr yma i ddarparu’r wybodaeth, y cyngor, yr arweiniad a’r gefnogaeth i’ch galluogi i ddatblygu a chyflawni’ch potensial llawn.

Yn gofalu am eich lles

Cynghorir myfyrwyr ag anghenion gofal personol i gysylltu â’r Swyddfa Anableddau i drafod eu hanghenion.

Mae pob Cyfrifiadur Personol ar rwydwaith y Brifysgol yn rhoi mynediad i feddalwedd arbenigol.

Mae gwasanaeth ‘caffael o’r silff’, darllen wyneb yn wyneb, a chyfleusterau TG arbenigol ar gael.










