8th in the UK for General Engineering. The Complete University Guide 2016.

pioneerwelsh1

Open days: 18 June, 15 October, 209 October

Cwrdd  Dr Lella Nouri

Uwch-Ddarlithydd Troseddeg

“Rydw i’n Fraenarwr

Mae’n anodd anwybyddu presenoldeb cynyddol eithafiaeth yn y byd heddiw. Dyna pam mae’n hanfodol ein bod yn ymchwilio i’r rhesymau pam mae gan grwpiau asgell dde eithafol bresenoldeb mor sylweddol ar-lein, a pham mae eu neges yn cael ei rhannu mor eang. Dim ond drwy wneud hynny cawn gyfle i atal twf iaith a gweithredoedd casineb gan grwpiau eithafol ar-lein.

Ar hyn o bryd, rwy’n arwain tîm sy’n ymchwilio i sut a pham mae grwpiau terfysgwyr yr asgell dde eithafol yn defnyddio’r rhyngrwyd i ledaenu eu neges a beth yw’r gwahaniaethau rhwng y grwpiau hyn. Oherwydd ei phwyslais ar waith rhyngddisgyblaethol, rwy’n argyhoeddedig mai Abertawe yw’r unig sefydliad lle byddai fy ymchwil yn bosib.

Mae gan Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton rwydwaith helaeth a chysylltiadau gwych â diwydiant – rhywbeth sydd wedi rhoi hwb mawr i’m hymchwil. Ond y peth gorau am y brifysgol hon yw nad ydych chi byth yn teimlo’n gyfyngedig i un adran. Mae pawb yma’n cydweithio mewn ffordd sy’n hollol unigryw i Abertawe. Ar y prosiect hwn yn unig, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gydag arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe sy’n astudio sut mae eithafwyr yn defnyddio iaith i ledaenu eu negeseuon.

Ar ôl i mi ennill gradd Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a PhD mewn Gwleidyddiaeth, dechreuais i ymddiddori o ddifrif yn y ffyrdd mae terfysgwyr yn defnyddio’r rhyngrwyd. Yna, ar ôl cyfnod o weithio fel Tiwtor Troseddeg, ces i fy mhenodi i swydd barhaol fel Darlithydd Troseddeg yn Abertawe yn 2015.

Cafodd fy niddordeb yn y maes ymchwil penodol hwn ei danio gan sgwrs ag arbenigwyr gwrthderfysgaeth. Roedden nhw am wybod mwy am sut mae defnydd grwpiau asgell dde eithafol o’r cyfryngau cymdeithasol yn gysylltiedig â thrais yn y byd. Ac rwyf wedi ymroi i ddarganfod hyn ers hynny.

Heddiw, mae ein hymchwil yn cael effaith yn barod. Mae gwaith y Prosiect Seiberderfysgaeth wedi cael ei anfon at NATO a’r Swyddfa Gartref, felly mae ein canfyddiadau’n cael sylw’r bobl gywir. Ond i sicrhau bod unrhyw ymchwil i derfysgaeth yn y dyfodol yn cael cymaint o effaith â phosib, mae angen safbwynt mwy cytbwys arnom. Dynion sy’n arbenigo yn y maes hwn, i raddau helaeth, o hyd, felly mae’n rhaid i ni wneud ymdrech i annog rhagor o fenywod i weithio yn y maes – i helpu i daflu goleuni newydd, mawr ei angen, ar y maes ymchwil hollbwysig hwn.

Fy mreuddwyd i yw y bydd ein gwaith yn newid ein dealltwriaeth o eithafiaeth ryw ddydd, ac yn gwella ein ffyrdd o atal ymddygiad treisiol. Ac rwy’n gwybod y caiff hyn ei wireddu’n gynt os bydd mwy o bobl yn mabwysiadu ffordd gydweithredol a rhyngddisgyblaethol o ddatrys y broblem.”

Credaf mai cydweithio yw’r allwedd i newid.quoteclose

Dr Lella Nouri

quoteopen