

“RYDW I’N YMGYRCHYDD
Rwy’n dwlu ar wenyn. Mae llawer o sŵolegwyr yn dod i’r pwnc yn awyddus i astudio anifeiliaid mawr “cyffrous” ond ers i mi ddechrau gwylio gwenyn, doedd dim troi’n ôl.
Po fwyaf y dysgais am ecoleg gwenyn a chymhlethdod eu bywydau, mwyaf y tyfodd fy niddordeb ynddynt. Gall gwenyn ddylanwadu ar ein diet, ein hamgylchedd a’n diwylliant hyd yn oed.
Mae gwenynen yn rhywogaeth ymbarél. Trwy eu hamddiffyn nhw, rydym yn amddiffyn ecosystemau cyfan – o flodau gwyllt a phryfed eraill i adar a mamaliaid. Heb yr amddiffyniad hwnnw, rydym yn eu rhoi nhw i gyd a’n hunain mewn perygl.
Mae fy ymchwil i bryfed sy’n peillio eisoes yn gwneud gwahaniaeth ond hoffwn i wneud llawer mwy.
Llwyddodd fy ymchwil israddedig i berswadio un cyngor i newid ei bolisi ar drefniadau torri gwair. Bellach, mae’n torri’r gwair ar ymylon y ffordd yn llai aml ac yn plannu mwy o flodau gwyllt. Ar gyfer fy Ngradd Meistr trwy Ymchwil, rwy’n astudio sut mae peillwyr yn defnyddio ardaloedd blodau gwyllt yn ninasoedd de Cymru.
Er hynny, credaf fod addysgu plant ynghylch pwysigrwydd pryfed sy’n peillio yr un mor bwysig â chadwraeth lwyddiannus.
Roedd fy nhiwtor wedi fy rhoi mewn cysylltiad â’r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Gwenynen a helpais i ddatblygu ei phecyn addysgu am ddim i ysgolion cynradd. Roeddwn hefyd wedi helpu i hyrwyddo ei nodau yn y babell gwyddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.
Gobeithio y bydd y brwdfrydedd a’r ymroddiad a ddatblygais i ym Mhrifysgol Abertawe yn helpu i ysbrydoli cenhedlaeth newydd i edrych ar bethau mewn ffordd wahanol; i werthfawrogi planhigion ac anifeiliaid a allai fel arall ymddangos yn ddi-nod a diogelu cynefinoedd oherwydd nad ydynt yn perthyn i ni yn unig.
Fy mreuddwyd yw ennill PhD a bod yn ecolegydd ymchwil. Dwi am i’m canfyddiadau ddarbwyllo llunwyr cyfreithiau i wneud rhagor i ddiogelu pryfed sy’n peillio a’u cynefinoedd. Gallai hynny wneud gwahaniaeth go iawn i’r byd.”

Gobeithio y bydd fy ymroddiad yn helpu i ysbrydoli cenhedlaeth newydd.
Elinor

ASTUDIO GWYDDONIAETH YM MHRIFYSGOL ABERTAWE
Mae’r Coleg Gwyddoniaeth yn cynnwys yr Adrannau Biowyddorau, Cyfrifiadureg, Daearyddiaeth, Mathemateg a Ffiseg.
Rydym yn dod â gwyddoniaeth yn fyw drwy ymchwil o safon fyd-eang ragorol a thrawiadol, addysgu ymarferol ymroddedig ac ymgysylltu dwyffordd â’r gymuned fusnes i rannu gweledigaeth lle mae gwyddoniaeth yn cyflawni rôl bwysig wrth ddeall a llunio ein byd heddiw.

Dyma rai o’r bobl sydd ar frig y don ym Mhrifysgol Abertawe.
YMCHWIL SY’N ARWAIN Y FFORDD YN FYD-EANG
Dengys canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2014) fod Prifysgol Abertawe wedi cyflawni ei huchelgais o fod ymysg y 30 o brifysgolion gorau am ymchwil, gan wibio i fyny’r tabl cynghrair i safle 26 yn y DU o safle 52 yn 2008.



Mae model Prifysgol Abertawe o ymgysylltu a diwydiant yn un y dylid ei efelychu yn Ewrop 
Dimitri Corpakis, Pennaeth yr Uned, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Ymchwil ac Arloesedd, y Comisiwn Ewropeaidd, 2013
CYSYLLTIADAU DIWYDIANNOL
Mae ein hanes hir o weithio gyda busnes, diwydiant, masnach a’r sector cyhoeddus yn ein galluogi i ychwanegu gwerth go iawn at eich addysg. Rydym yn gwrando’n ofalus ar gyflogwyr pan fyddan nhw’n dweud wrthym pa sgiliau a phrofiadau maent yn gofyn amdanynt gan eu gweithwyr graddedig, ac rydym yn teilwra ein cyrsiau i sicrhau eich bod yn meithrin y sgiliau proffesiynol, safon uchel, hynny a fydd yn eich galluogi i ffynnu yn y byd cystadleuol cyfoes.





ASTUDIAETHAU
ÔL-RADDEDIG
Fel myfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn rhan o gymuned fywiog sy’n ffynnu ar archwilio a darganfod, a byddwch yn ymuno ag ymchwilwyr ac academyddion sy’n cael effaith go iawn ar iechyd, cyfoeth, diwylliant a lles ein cymdeithas.










