

Rydw i'n Llysgennad
Enillais fy nghymwysterau yn Nigeria ond fy mreuddwyd yw bod yn gyfreithiwr cyfraith forwrol ryngwladol sy’n gallu gweithio mewn sawl awdurdodaeth.
Mae astudio am radd Meistr mewn Cyfraith Forwrol ym Mhrifysgol Abertawe yn fy helpu i feithrin meddylfryd byd-eang, yn barod i gyflawni rôl yn y farchnad gyfreithiol ryngwladol.
Dwi’n astudio modiwlau sydd yn hynod ddiddorol a chyffrous ac mae ymroddiad y tiwtoriaid gwych wedi cael effaith go iawn ar fy ngraddau. Er hynny, mae llawer mwy yma i’m helpu i ddatblygu.
Mae natur amlddiwylliannol y brifysgol yn ysbrydoliaeth. Mae wedi fy ngalluogi i feithrin perthnasoedd sy’n croesi ffiniau hil, diwylliant, cenedligrwydd a chredoau crefyddol. Mae wedi fy ngwneud yn fwy parod i dderbyn pobl sy’n wahanol i mi ac mae hyn yn rhoi grym i mi.
Dwi wastad wedi breuddwydio am fod yn gatalydd, gan ysbrydoli newid cadarnhaol drwy fy mrwdfrydedd a’m hegni. Rwy’n uchelgeisiol ond dwi am i’r rhinweddau hyn ddisgleirio drwy fy ngwaith.
Fel cynrychiolydd myfyrwyr fy ngholeg, gan bontio’r bwlch rhwng tiwtoriaid a myfyrwyr, a thrwy weithio fel llysgennad myfyrwyr ar ddiwrnodau agored, cefais ymdeimlad gwych o gyflawni drwy helpu eraill ar hyd y daith.
Roeddwn i wedi gwneud cais i sawl prifysgol ond Abertawe oedd yr un gyntaf i ymateb a’r un fwyaf cyfeillgar. Roedd hynny’n bwysig i mi. Pan gyrhaeddais i, roedd y gyrrwr tacsi hyd yn oed yn garedig, gan stopio’r mesurydd i roi cyfle i mi siopa am ddillad gwely. Yn yr eiliad hwnnw, roeddwn i’n gwybod fy mod i wedi dod o hyd i le y gallwn ei alw’n gartref.
Cartref yw’r lle rydych yn dod o hyd i gynhesrwydd, llawenydd, chwerthin, cysur. Lle gallwch fynegi’ch hun, dysgu a dod yn berson gwell. Rwyf wedi dod o hyd i’r holl bethau hyn a mwy yn Abertawe.“

Yn yr eiliad hwnnw, roeddwn i’n gwybod fy mod i wedi dod o hyd i le y gallwn ei alw’n gartref.
Debbie

ASTUDIO’R GYFRAITH YM MHRIFYSGOL ABERTAWE
Cynigia’r Coleg ystod eang o Raglenni LLB, ynghyd â’r Cwrs Ymarferiad y Gyfraith (LPC) a’r Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith (GDL). Addysgir ein holl fodiwlau gan athrawon a darlithwyr hynod brofiadol sy’n weithgar ym maes ymchwil.

Dyma rai o’r bobl sydd ar frig y don ym Mhrifysgol Abertawe

CYFLEOEDD BYD-EANG
Cewch gyfle i gael profiad rhyngwladol a dysgu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol. Rydym yn ymrwymedig i gynnig cyfle i’n holl fyfyrwyr astudio neu weithio dramor yn ystod eu gradd ac i’w hannog i achub ar gyfleoedd o’r fath.
RHAGORIAETH ADDYSGU
Rydym yn credu y dylai dysgu fod yn bleserus yn ogystal ag ysgogol a heriol. Mae addysgu sy’n cael ei arwain gan ymchwil a’i ysgogi gan ymarfer yn helpu i sicrhau bod graddau’r Brifysgol yn berthnasol i’r byd modern.






EIN LLEOLIAD UNIGRYW
Yn dafliad carreg o ganol y ddinas, mae Campws y Bae wrth y traeth,
ac mae Campws Parc Singleton wedi’i amgylchynu gan barcdir aeddfed a gerddi botaneg. Mae’r ddau ar gyrion penrhyn hardd Gŵyr.






AWYRGYLCH AMLDDIWYLLIANNOL BYWIOG
Ers ei sefydlu ym 1920, mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu cyfleoedd i ddatblygu meddylfryd byd-eang. Mae’r cymysgedd bywiog o genhedloedd a diwylliannau ar y campws yn cyfoethogi ein hamgylchedd dysgu ac addysgu yn fawr. Mae gan y Brifysgol gymuned ryngwladol: mae 16% o’n myfyrwyr bellach yn dod o wledydd tramor, ac mae tua 30% o’r holl staff a benodwyd yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn dod o’r tu allan i’r DU.
Mae gennym bartneriaethau rhyngwladol ffyniannus yn UDA, Brasil, Ewrop, Tsieina, India ac Affrica.










