

“RYDW I’N ARLOESWR
Mae rhai pobl yn meddwl bod peirianwyr yn ddiflas, ond rydw i’n bell o fod yn ddiflas. Pan oeddwn i’n blentyn, doeddwn i byth yn gallu aros yn llonydd. Ces i fwy o hwyl wrth adeiladu’r tŷ chwarae nag wrth chwarae ynddo.
Fy mreuddwyd i yw cael fy adnabod fel peiriannydd pobl - rhywun sy’n newid bywydau drwy feddwl ychydig bach yn wahanol, efallai ym maes ynni adnewyddadwy.
Mae peirianneg yn ymwneud ag arloesi ond, oni bai fod gennych y gallu i gyfathrebu, gall syniadau fynd ar goll.
Yn ffodus, doeddwn i ddim mewn parchedig ofn pan gwrddais â Syr Terry Matthews, y biliwnydd telathrebu Cymreig, pan ddaeth i’r Brifysgol.
Enillais ei her Canada – y cyfle i weithio yn un o’i gwmnïau yn Ottawa am bedair wythnos gyda’r holl gostau wedi eu talu.
Roedd hynny’n gyfle anhygoel. Allwn i ddim fod wedi dychmygu’r math hwnnw o antur ychydig o flynyddoedd yn ôl.
Mae Prifysgol Abertawe yn enwog am ei Hadran Beirianneg ond mae hefyd wedi newid fy mywyd mewn ffyrdd eraill.
Cymerwch fy niddordeb newydd gwych, Ffrisbi Eithafol. Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn bodoli nes i mi ddod yma.
Fel llysgennad myfyrwyr, hoffwn i ysbrydoli rhagor o fenywod i astudio peirianneg. Does dim rhaid i chi fod yn gryf, dim ond mwynhau gwneud pethau a pheidio ag ofni cael eich dwylo’n fudr.
Mwyaf amrywiol y tîm, y gorau fydd y syniadau. Mae menywod yn ymdrin â thasgau mewn ffyrdd gwahanol, felly pan fyddwn yn cyfrannu, gall roi mantais i’r tîm.
Roedd dewis astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn un o benderfyniadau gorau fy mywyd. Roedd popeth roeddwn i’n chwilio amdano ar garreg fy nrws, ond mae eisoes wedi rhoi cyfle i mi deithio’r byd.”

Ces i fwy o hwyl wrth adeiladu’r tŷ chwarae nag wrth chwarae ynddo.
Carys

ASTUDIO PEIRIANNEG YM MHRIFYSGOL ABERTAWE
Rydym yn darparu awyrgylch addysgu blaengar ynghyd â chyfleusterau addysgu o’r radd flaenaf. Gan arloesi yn ein cynnydd technolegol, mewn disgyblaethau traddodiadol a rhai newydd ym maes Peirianneg, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau diwydiannol mawr.

Dyma rai o’r bobl sydd ar frig y don ym Mhrifysgol Abertawe:
MEDDYLIWCH AM CHWARAEON MEDDYLIWCH AM ABERTAWE
Mae gan y Brifysgol ymrwymiad arbennig i chwaraeon a hwylusir gan amgylchedd naturiol eithriadol Abertawe a thrwy ein Canolfan Chwaraeon o’r radd flaenaf yn Singleton. Beth bynnag yw eich lefel a’ch uchelgeisiau, rydym yn darparu cyfleusterau, cyfleoedd a chymorth chwaraeon penigamp.



Mae model Prifysgol Abertawe o ymgysylltu â diwydiant yn un y dylid ei efelychu yn Ewrop 
Dimitri Corpakis, Pennaeth yr Uned, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Ymchwil ac Arloesedd, y Comisiwn Ewropeaidd, 2013
CYSYLLTIADAU DIWYDIANNOL
Mae ein hanes hir o weithio gyda busnes, diwydiant, masnach a’r sector cyhoeddus yn ein galluogi i ychwanegu gwerth go iawn at eich addysg. Rydym yn gwrando’n ofalus ar gyflogwyr pan fyddan nhw’n dweud wrthym pa sgiliau a phrofiadau maent yn gofyn amdanynt gan eu gweithwyr graddedig, ac rydym yn teilwra ein cyrsiau i sicrhau eich bod yn meithrin y sgiliau proffesiynol, safon uchel, hynny a fydd yn eich galluogi i ffynnu yn y byd cystadleuol cyfoes.





CYFLEOEDD BYD-EANG
Cewch gyfle i gael profiad rhyngwladol a dysgu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol. Rydym yn ymrwymedig i gynnig cyfle i’n holl fyfyrwyr astudio neu weithio dramor yn ystod eu gradd ac i’w hannog i achub ar gyfleoedd o’r fath.










