

“RYDW I’N FLAENGAR
Ers i mi allu cofio, dwi wedi mwynhau gofyn “ond pam mae’n digwydd fel hynny?”
Y meddylfryd hwn sydd wedi fy sbarduno i ddefnyddio’r damcaniaethau mathemateg a ffiseg a ddysgais yn yr ysgol a’r brifysgol wrth ymdrin â heriau yn y byd go iawn – ffordd amlwg o wneud hynny oedd astudio Peirianneg.
Ar ôl pedair blynedd fel myfyriwr Israddedig yng Nghaergrawnt, sylweddolais fod y rhan fwyaf o broblemau aerodynameg yn yr 21ain ganrif yn cael eu datrys trwy ddefnyddio’r technegau modelu cyfrifiadurol newydd yr oedd Prifysgol Abertawe’n enwog am eu harloesi.
Felly, dechreuais radd PhD yn Abertawe ym maes Dynameg Hylifau Gyfrifiadurol. Roedd fy ymchwil PhD yn defnyddio’r technegau modelu hynny er mwyn datblygu meddalwedd sy’n gallu rhagfynegi ymddygiad llif aerodynameg trwy astudio’r mudiant molecwlar sy’n sail iddo.
Drwy symud i Abertawe, ces i gyfle anhygoel i fod yn rhan o Brosiect BLOODHOUND i dorri’r Record Cyflymder ar Dir ac ymuno â thîm dylunio car cyflyma’r byd a gweithio ochr yn ochr â’r aerodynamegwr byd-enwog Ron Ayers.
Mae fy ngwaith ym Mhrifysgol Abertawe wedi helpu i ddylunio BLOODHOUND SSC, sydd wedi’i ddylunio i gyrraedd 1,000 mya, ac mae hyn wedi ysbrydoli nifer o syniadau ymchwil newydd rwy’n gweithio arnynt gyda’m tîm. Y nod yw iddo gyrraedd cyflymder o 1,000mya ar drac yn Hakskeen Pan ym Mhenrhyn y Gogledd, De Affrica y flwyddyn nesaf (2018) a thorri record cyflymder tir y byd.
Dros y deng mlynedd ddiwethaf, rydym wedi gweithio i ddatblygu siâp aerodynameg y car, a dyna pam ei fod yn edrych fel y mae heddiw. Dw i’n teimlo’n frwdfrydig am botensial prosiect BLOODHOUND i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o beirianwyr ledled y byd a dwi’n edrych ymlaen at weld y technolegau deillio a fydd yn gwthio Abertawe i fod yn ganolfan sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes ymchwil dylunio aerodynameg.”

Rhoddodd gyfle i mi ddylunio car cyflyma’r byd.
Dr Ben Evans

ASTUDIO PEIRIANNEG YM MHRIFYSGOL ABERTAWE
Rydym yn darparu awyrgylch addysgu blaengar ynghyd â chyfleusterau addysgu o’r radd flaenaf. Gan arloesi yn ein cynnydd technolegol, mewn disgyblaethau traddodiadol a rhai newydd ym maes Peirianneg, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau diwydiannol mawr.

Dyma rai o’r bobl sydd ar frig y don ym Mhrifysgol Abertawe.
Bloodhound SSC
Mae gan Beirianneg ym Mhrifysgol Abertawe hanes helaeth o gydweithio diwydiannol ac mae wedi cyfrannu’n sylweddol at nifer o brosiectau o fri.
O ddylunio aerodynameg y Car Uwchsonig THRUST, sydd ar hyn o bryd yn dal record y byd am gyflymder ar dir, i’r cydweithrediad diweddaraf, sef dylunio aerodynameg y Car Uwchsonig BLOODHOUND.

YMCHWIL SY’N ARWAIN Y FFORDD YN FYD-EANG
Dengys canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2014) fod Prifysgol Abertawe wedi cyflawni ei huchelgais o fod ymysg y 30 o brifysgolion gorau am ymchwil, gan wibio i fyny’r tabl cynghrair i safle 26 yn y DU o safle 52 yn 2008.



Mae model Prifysgol Abertawe o ymgysylltu a diwydiant yn un y dylid ei efelychu yn Ewrop 
Dimitri Corpakis, Pennaeth yr Uned, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Ymchwil ac Arloesedd, y Comisiwn Ewropeaidd, 2013




ASTUDIAETHAU
ÔL-RADDEDIG
Fel myfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn rhan o gymuned fywiog sy’n ffynnu ar archwilio a darganfod, a byddwch yn ymuno ag ymchwilwyr ac academyddion sy’n cael effaith go iawn ar iechyd, cyfoeth, diwylliant a lles ein cymdeithas.











