

“RYDW I’N BENCAMPWR
Heb Brifysgol Abertawe, fyddwn i ddim lle rydw i heddiw – yn fy swydd ddelfrydol yn rheoli holl weithrediadau cyfryngau a darlledu Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Gydag amseru gwych, graddiais i yn 2011 wrth i’r Clwb gael ei ddyrchafu i’r Uwch-gynghrair. Ond fyddwn i ddim wedi bod yn barod i ymgymryd â’r rôl heb y cyfleoedd a’r profiad ges i ym Mhrifysgol Abertawe.
Dyw Abertawe ddim yn creu graddedigion yn unig, ei nod yw hyfforddi pobl ifanc sy’n gymwys am y byd gwaith ac yn barod i wireddu eu potensial.
Ymunais i â Waterfront, papur newydd y myfyrwyr, hanner ffordd trwy fy ail flwyddyn a des i’n Olygydd Chwaraeon, gan ennill dwy wobr y cyfryngau, ac roeddwn i’n ddigon ffodus i gyfweld â nifer o sêr chwaraeon blaenllaw.
Roeddwn i hefyd yn cyd-ysgrifennu blog ar-lein, fe wnes i dri lleoliad gwaith, gan gynnwys un yn y clwb ac un gyda phapur newydd lleol, yn ogystal â llwyddo i ennill gradd mewn Hanes.
Yn ystod fy amser yn Abertawe, roeddwn yn llysgennad myfyrwyr ar gyfer yr Adran Hanes, yn siarad â darpar fyfyrwyr am y manteision niferus sydd gan y Campws a’r ddinas i’w cynnig. Nawr, fel aelod o Gymdeithas y Cynfyfyrwyr, dwi’n dod yn ôl i roi sgyrsiau gyrfaoedd rheolaidd er mwyn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i gyflogaeth mewn hinsawdd sy’n gallu bod yn anodd.
Efallai fy mod i wedi gwireddu un o’m breuddwydion yn syth ar ôl graddio, ond mae gen i lawer i’w gyflawni o hyd. Hoffwn i deithio i wledydd gwahanol er mwyn profi diwylliannau newydd. Un diwrnod, hoffwn i ysgrifennu llyfr hefyd.
Roedd penderfynu dod i Brifysgol Abertawe yn benderfyniad rhwydd, a’r un gorau wnes i erioed. ”

Dwi’n gwneud fy swydd ddelfrydol gan ddilyn fy hoff dîm.
Ben

ASTUDIO’R CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU YM MHRIFYSGOL ABERTAWE
Mae graddedigion y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn gwneud cyfraniad gwerthfawr ac unigryw i’r economi ac maent yn hollbwysig wrth gefnogi sectorau diwydiant creadigol sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang.

Dyma rai o’r bobl sydd ar frig y don ym Mhrifysgol Abertawe.
MEDDWL AM EICH DYFODOL
Mae ein hanes hir o weithio gyda busnes, diwydiant, masnach a’r sector cyhoeddus yn ein galluogi i ychwanegu gwerth go iawn at eich addysg. Rydym yn gwrando’n ofalus ar gyflogwyr pan fyddan nhw’n dweud wrthym pa sgiliau a phrofiadau maent yn gofyn amdanynt gan eu gweithwyr graddedig, ac rydym yn teilwra ein cyrsiau i sicrhau eich bod yn meithrin y sgiliau proffesiynol, safon uchel, hynny a fydd yn eich galluogi i ffynnu yn y byd cystadleuol cyfoes.





MAE PRIFYSGOL YN FWY NA LLE I DDYSGU – MAE’N LLE I FYW!
Mae’r ffordd o fyw ar ein campws yn meithrin cymuned groesawgar, gosmopolitan sy’n cynnig rhywbeth i bawb.








CYMUNED GYDOL OES
Mae gan Brifysgol Abertawe gymuned ffyniannus o gynfyfyrwyr sy’n sicrhau y byddwch yn gallu cadw mewn cysylltiad agos â’r Brifysgol yn hir ar ôl i gymeradwyaeth y seremoni raddio ddistewi. Mae ein holl raddedigion yn cael eu cofrestru’n awtomatig yn aelodau Cymdeithas y Cynfyfyrwyr, cymuned gynnes, groesawgar o raddedigion sy’n cael eu cysylltu gan eu profiadau o astudio yn Abertawe.
Mae’r Gymdeithas yn rhwydwaith bywiog â 60,000 o aelodau gweithgar sy’n gweithio ar bob lefel mewn diwydiant, masnach, chwaraeon a’r sector cyhoeddus..

SYr Terry Matthews

Jason Mohammad

Liz Johnson

ATHRO LYN EVANS










