PRIFYSGOL ABERTAWE
Trwy astudio ym Mhrifysgol Abertawe byddwch yn rhan o sefydliad ymchwil o safon fyd-eang sydd ag uchelgeisiau mawr. Byddwch yn derbyn profiad dysgu ac addysgu rhagorol â phwyslais arbennig ar gyflogadwyedd. Ond byddwch hefyd yn cwympo mewn cariad â’r ddinas.





CYFLAWNIADAU
Diolch i’n myfyrwyr a’n staff disglair, mae gennym lawer i fod yn falch ohono.








Y CWRS PERFFAITH I CHI
Mae addysgu sy’n cael ei arwain gan ymchwil a’i ysgogi gan ymarfer yn helpu i sicrhau bod eich gradd yn berthnasol i’r byd modern. Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn gradd 5 seren am ansawdd ei haddysgu gan y system graddio prifysgolion byd-eang Sêr QS ac yn cynnig cyrsiau ar draws y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Peirianneg, y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Meddygaeth a Rheolaeth.



MEDDWL AM EICH DYFODOL
Mae ein hanes hir o weithio gyda busnes, diwydiant, masnach a’r sector cyhoeddus yn ychwanegu gwerth go iawn at eich addysg. Rydym yn gwrando’n ofalus ar gyflogwyr pan fyddan nhw’n dweud wrthym pa sgiliau a phrofiadau maent yn gofyn amdanynt gan eu gweithwyr graddedig, ac rydym yn teilwra eich gradd i sicrhau eich bod yn meithrin y sgiliau proffesiynol, safon uchel, hynny a fydd yn eich galluogi i ffynnu yn y byd cystadleuol cyfoes.

EIN LLEOLIAD UNIGRYW
Yn dafliad carreg o ganol y ddinas, mae Campws y Bae wrth y traeth, ac mae Campws Parc Singleton wedi’i amgylchynu gan barcdir aeddfed a gerddi botaneg. Mae’r ddau ar gyrion penrhyn hardd Gŵyr.


LLETY
Gall dechrau yn y brifysgol fod yn dipyn o gorwynt ac ymhlith popeth, bydd angen lle i ymlacio, pwyso a mesur eich sefyllfa newydd, ac ymgartrefu yn syth.
Ni waeth a ydych am fyw yn un o’n neuaddau cysurus ar y campws, yn ein Pentref Myfyrwyr deiliog, neu yn un o’r tai preifat gerllaw a reolir gan ein hasiantaeth osod, Gwasanaethau Llety Myfyrwyr (SAS), mae Gwasanaethau Preswyl yna i sicrhau y byddwch yn dewis y llety sy’n berffaith i chi.
Mae ystafelloedd wedi’u haddasu ar gael i’r rhai ag anghenion arbennig, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn.

Wi-Fi

BWYTAI

SIOPAU

GOLCHFA





CYFLEUSTERAU
Popeth sydd ei angen arnoch i fwynhau profiad myfyrwyr gwych.
- Cyfleusterau Golchfa 24/7
- Mae ystafelloedd wedi’u haddasu ar gael i fyfyrwyr ag anghenion penodol, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn
- WiFi ar draws y campws
- Wardeniaid Lles Preswyl
- Dros 1,800 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr eu defnyddio
- WiFi diderfyn am ddim yn y llety
- Pentref Chwaraeon, gan gynnwys Pwll Cenedlaethol Cymru
- Llyfrgelloedd 24/7





CAMPWS Y BAE

Y NEUADD FAWR
Mae’r Neuadd Fawr, yng nghanol Campws y Bae, yn lleoliad hyfryd i’r Brifysgol gynnal cyngherddau cerddorol, cynadleddau a seremonïau graddio a digwyddiadau mawr eraill.

PEIRIANNEG
Caiff y Coleg Peirianneg ei gydnabod yn rhyngwladol am ansawdd ei addysgu a’i ymchwil. Gyda’n Canolfannau Ymchwil o safon fyd-eang a rhaglen fuddsoddi hirdymor i ddarparu adnoddau a chyfleusterau addysgu rhagorol, rydym yn cynnig amgylchedd astudio ardderchog.

YR YSGOL REOLAETH
Mae gan yr Ysgol Reolaeth gymuned fywiog o fyfyrwyr sy’n dod o bedwar ban y byd. Mae gan yr Ysgol ddiwylliant ymchwil dynamig yn seiliedig ar nifer o grwpiau ymchwil ac mae ein myfyrwyr yn manteisio ar arbenigedd ein hacademyddion o fri rhyngwladol sy’n ymwneud ag addysgu ar bob lefel.

LLETY MYFYRWYR
Mae Campws y Bae yn un o’r ychydig o gampysau prifysgol yn y DU sydd â mynediad uniongyrchol i’r traeth a’i rodfa ei hun ar lan y môr. Mae ganddo gyfleusterau pwrpasol ar gyfer myfyrwyr a llety i’w rentu yn ystod yr haf.

CAMPWS PARC SINGLETON

TŶ FULTON
Cafodd Tŷ Fulton ei ddylunio gan Percy Thomas a’i agor ym 1965 ac mae’n adeilad rhestredig Gradd II. Mae bellach yn gartref i amrywiaeth o wasanaethau i fyfyrwyr, bwytai, a siopau.

COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU
Mae gan Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau chwe adran: Academi Hywel Teifi, Addysg Barhaus Oedolion, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Hanes a’r Clasuron, Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu ac Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol.

COLEG Y GWYDDORAU DYNOL AC IECHYD
Mae Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn tynnu disgyblaethau iechyd, nyrsio, bydwreigiaeth, gofal cymdeithasol, polisi cymdeithasol, a seicoleg at ei gilydd. Y Coleg yw’r darparwr addysg gofal iechyd mwyaf yng Nghymru, gydag awyrgylch cyffrous a dynamig i astudio ynddo, ac i ddatblygu gyrfa academaidd neu broffesiynol.

COLEG Y GYFRAITH A THROSEDDEG
Cynigia’r Coleg ystod eang o Raglenni LLB ynghyd â’r Cwrs Ymarferiad y Gyfraith (LPC) a’r Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith (GDL). Addysgir ein holl fodiwlau gan athrawon a darlithwyr hynod brofiadol sy’n weithgar ym maes ymchwil.

YR YSGOL FEDDYGAETH
Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn gydradd gyntaf yn y DU am ein Hamgylchedd Ymchwil a bellach yn 2il yn y DU am ein Huned Asesu o ganlyniad i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.

Y COLEG GWYDDONIAETH
Mae’r Coleg Gwyddoniaeth yn cynnwys yr Adrannau Biowyddorau, Cemeg, Cyfrifiadureg*, Daearyddiaeth, Mathemateg* a Ffiseg. Rydym yn dod â gwyddoniaeth yn fyw drwy ymchwil o safon fyd-eang ragorol a thrawiadol, addysgu ymarferol ymroddedig ac ymgysylltu dwyffordd â’r gymuned fusnes.
*Dysgir y cyrsiau hyn ar Gampws y Bae
Darganfod Mwy
Archebwch le ar un o’n DIwrnodau Agored
Lawrlwythwch eich canllaw myfyrwyr i Abertawe neu darllenwch fwy am fywyd myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe isod.

































